Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


245(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan James Evans - Y diweddaraf am y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig

(30 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Banc Datblygu Cymru

(60 munud)

NDM8746 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc Datblygu Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd 2024. Ymatebodd Banc Datblygu Cymru ar 4 Medi 2024 (Saesneg yn unig), a rhoddwyd ymateb wedi’i ddiweddaru ar 29 Hydref 2024 (Saesneg yn unig).

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22

(60 munud)

NDM8745 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ‘Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024. Ymatebodd Amgueddfa Cymru ar 4 Hydref 2024.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol

(30 munud)

NDM8747 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau amaethyddol. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.

2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.

3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.

4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau trethianol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach a threthiant

(30 munud)

NDM8748 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2024.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol ledled Cymru.

3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad maniffesto drwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol ac yn nodi bod Consortiwm Manwerthu Prydain a 79 o arweinwyr manwerthu amlwg wedi dweud y bydd y cynnydd yn arwain at brisiau uwch, swyddi'n cael eu colli, a niwed i lefelau buddsoddi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i wneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU o blaid gwyrdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol; a

b) dychwelyd rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau bach a diogelu swyddi.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr Hydref er mwyn ceisio sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad.

Yn cydnabod bod rhyddhad ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig wedi bod ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers pum mlynedd yn olynol, am gost o £1 biliwn, ynghyd â phecyn blynyddol Llywodraeth Cymru o ryddhad ardrethi parhaol gwerth £250 miliwn.

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod Pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

11    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8733 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Llygredd diwydiannol: Effaith etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru ar ein tirweddau

</AI12>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>